Bwyty’r Oakeley Arms yn Eryri
Prydau cartref yn harddwch Gogledd Cymru
Mae gan yr Oakeley Arms far traddodiadol i adlewyrchu hanes yr adeilad. Yn y bar mae cadeiriau clud, soffas cysurus a thanau go iawn, felly dewch i yma i ymlacio’n llwyr.
Rydym yn falch iawn o’n hardal leol a chredwn fod rhai o gynhyrchion bwyd gorau Cymru i’w cael yma. Mae ein bryniau ir, ein dolydd gwylltion a’n harfordiroedd dramatig yn fannau perffaith i gynhyrchu rhai o fwydydd gorau Cymru.
Mae’r Cig Oen Morfa Heli, Halen enwog Môn, Hufen Iâ hufennog Mario’s, siocledi moethus Cathryn Cariad a’r Caws Cheddar dieflig o gryf Black-Bomber oll yn esiamplau gwych o’r diwylliant bwydgarol lleol.
Mae’r balchder yma i’w weld yn ein bwydlen am ein bod yn ymdrechu bob amser i gynnig prydau traddodiadol o Gymru gyda chynnyrch lleol a thymhorol lle gallwn. Mae bwydlen y bar yn cynnig amrywiaeth blasus o brydau cartref a seigiau arbennig, gydag opsiynau i lysfwytawyr a phrydau i blant.
Nodwch fod ein bwydlenni a’n byrddau seigiau arbennig yn newid yn rheolaidd.
Mae’r Oakeley Arms yn dŷ rhydd ac mae ein bar gorlawn yn cynnig cwrw, chwerw a seidr amrywiol o Gymru. Dewch i flasu ein cwrw flasus , yn cynnig cwrw gan fragdai adnabyddus o Gymru megis Great Orme, Brains a Tomos Watkin, yn ogystal â wisgi, gwinoedd a gwirodydd o Gymru.
Rydym yn gweini te, coffi, cacennau a danteithion hefyd drwy gydol y dydd.
Amseroedd Agor
Bar (Llun i Sadwrn) 11:00yb – Cau
Bwyd (Llun i Gwenar) 12:00yh – 3:00yh a 5:00yh – 8:00yh
Bar (Sul) 11:00yh – Cau
Bwyd (Sul) Cegin – 12:00yh – 6:00yh