Beth i’w wneud yn Eryri
Lle gwych i aros er mwyn archwilio Gogledd Cymru
Hyd yn oed o bell mae mynyddoedd Eryri’n syfrdanol yn eu harddwch tawel, ond beth am geisio dringo un ohonynt? Bydd yn tynnu eich anadl am ddau reswm – y dringo serth i’r copaon mawreddog ac hefyd oherwydd golygfeydd syfrdanol y dyffrynnoedd, y bryniau, yr arfordir a’r clogwynni.
Mae’n wir nad oedd Gogledd Cymru’n lle poblogaidd i fynd ar wyliau yn y gorffennol ond mae hynny’n newid yn gyflym iawn. Ewch i chwilio’r ardal eich hun ac fe ddewch ar draws gymunedau lleol cryf sy’n ymfalchïo yn eu hanes; diwylliant ac iaith a gyrhaeddodd Prydain oddeutu 1,000 Cyn Crist; cestyll ac adfeilion sy’n orlawn â hanes a chwedloniaeth a’r math o olygfeydd syfrdanol sy’n gwneud i chi ofyn i chi’ch hun pam na ddaethoch yma o’r blaen.
Ac yma yng nghalon y Parc Cenedlaethol, Gwesty’r Oakeley Arms yw’r lle perffaith i aros ar gyfer archwilio atyniadau Eryri a’r gweithgareddau sydd ganddi i’w cynnig.
Efallai eich bod yn ffansïo gwyliau anturus yn Eryri neu efallai y byddai’n well gennych ymlacio a chymryd pethau’n arafach? Beth bynnag yw eich dymuniad, mae toreth o bethau i’w gweld a’u gwneud felly gwelwch ein hatyniadau gorau yng Ngogledd Cymru isod.
Os byddwch angen cyngor neu gymorth gydag unrhyw rai o weithgareddau neu atyniadau’r ardal, bydd unrhyw un o’n staff yn hapus i’ch helpu.