3

Gwesty ac Ystafelloedd yn Eryri

Yng nghanol harddwch Gogledd Cymru

Ymhob ystafell yn ein Gwesty mae teledu lliw a chyfleusterau i wneud diodydd poeth.

 

Mae gennym ystafelloedd sengl a dwbl, ystafelloedd dau wely ac ystafelloedd i’r teulu.
Mae gennym hefyd ystafelloedd gwesty sy’n ddelfrydol i deuluoedd am eu bod yn agos at ystafell ymolchi arall – dyna ddiwedd ar y dadlau ynglŷn â phwy sy’n cael mynd gyntaf!

Cewch fynd i mewn i’ch ystafell unrhyw brydrhwng 3yh a 10yh a rhaid ymadael cyn 10:30yb. Gallwn drefnu i chi gyrraedd yn fuan neu adael yn hwyr os cysylltwch o flaen llaw a bydd ein staff yn gwneud eu gorau i ateb eich gofynion.

Nid oes hawl gan unrhyw un ysmygu mewn unrhyw ran o’r gwesty.

Trefnwch eich gwyliau yn awr

Ein Prisiau

 

Ystafelloedd yn y Gwesty

Sengl En-Suite: £72
Dau wely En-Suite:  £95-£110
Dwbl En-Suite:  £95 -£125
Teulu En-Suite (lle i 4 gysgu): £160

Gwelwch beth sydd ar gael

MWYNHEWCH BOB MUNUD

TYLINO

Gallwch eich difetha’ch hun yn llwyr yn ystod eich gwyliau yma. Mae gennym Therapydd Tylino a Reiki cymwysedig y gallech drefnu apwyntiad i’w gweld yn y gwesty. Mae’r triniaethau’n cynnwys adweitheg, tylino gyda cherrig poeth a thylino pen yn y dull Indiaidd.
Anfonwch neges ebost at Ann Marie yn [email protected]  i gael manylion llawn y triniaethau, prisiau ac amseroedd. Rhaid trefnu apwyntiad o flaen llaw.

TEITHIAU CERDDED GYDAG ARWEINYDD

Efallai eich bod yn ffansïo gwyliau cerdded anturus yng Nghymru, diwrnod allan ar y bryniau neu grwydr hamddenol ar hyd yr afon. Os felly, gallwn drefnu i dywysydd cerdded a mynydda cymwysedig eich helpu i gynllunio diwrnod diogel yn yr awyr agored. Gallwn roi cinio pecyn i chi os dymunwch; gofynnwch i’r staff am fanylion.

ANTURIAETHAU

I’r rheiny ohonoch sy’n chwilio am westy gerllaw Zip World, dim ond taith fer mewn car sydd ei hangen i gyrraedd yr atyniad ffantastig yma yn ogystal ag atyniadau anturus eraill yn ardal Eryri.

TREFNWCH EICH SESIWN DYLINO NAWR

Canslo’r Gwyliau

Bydd angen i chi dalu blaendal wrth archebu’ch gwyliau. Os byddwch yn rhoi llai na 48 awr o rybudd wrth ganslo, byddwn yn codi’r pris llawn arnoch/yn codi’r hyn sy’n weddill arnoch. Ni allwn dalu’r blaendaliadau yn ôl i chi. Rhaid i unrhyw un sy’n canslo anfon ebost at [email protected].

*Os ydych yn trefnu’r gwyliau drwy asiantaeth trydydd parti, efallai y bydd yr amodau a thelerau’n wahanol, gwiriwch cyn archebu os gwelwch yn dda*

Rydym yn derbyn cardiau Visa, MasterCard a Maestro, ac efallai y bydd angen i chi roi rhif y cerdyn i sicrhau’r archeb.

Rydym yn cadw’r hawl i rag-awdurdodi swm cyn i chi ddod i aros, a bydd hyn yn gostwng y credyd sydd ar gael ar eich cerdyn.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau neu gwestiynau eraill, ffoniwch neu anfonwch e-bost a byddwn yn hapus i helpu.

Ffôn: 01766 590 277 E-bost: [email protected]