Priodasau a Digwyddiadau yn Eryri
Yn yr Oakeley Arms
Mae’r Oakeley Arms yn lle gwych i gynnal pob math o ddigwyddiadau, priodasau a gweithgareddau sy’n cynnwys cyfarfodydd corfforaethol, sesiynau hyfforddi, partïon pen-blwydd, cinio angladdau neu ddathliadau bedyddio.
Priodasau
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym fod yn rhan o ddiwrnod mawr unrhyw briodferch a phriodfab, felly beth am ddod i ddathlu gyda ni yn awyrgylch gwefreiddiol pentref Maentwrog? Mae ein gwesty hanesyddol yn Eryri’n lleoliad blaenllaw yng Ngogledd Cymru ar gyfer dathliadau priodas. Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gloddesta i ateb gofynion unigolion, gwasanaeth gwych gan y staff, defnydd preifat o ystafelloedd gweithgareddau, pum erw o erddi a llety dros nos i westeion. Rydym yn arlwyo i grwpiau o hyd at 150 o bobl a gallwn hefyd gynnig cymorth a chyngor ar bob agwedd o’ch dathliad priodas fel eich bod yn gallu ymlacio a mwynhau eich diwrnod arbennig.
Ymwelwyr ar Goets
Gallwn ddarparu lle i grwpiau mewn coets aros am ginio neu gael seibiant o’u taith am fod gennym ddigonedd o le parcio i goetsys a bysiau mini. Gallwn hefyd gynnig lle i chi aros dros nos os cawn rybudd o flaen llaw.
I drafod eich digwyddiad neu achlysur arbennig, ffoniwch neu anfonwch eich ymholiad mewn e-bost.
Ffôn: 01766 590 277
E-bost: [email protected]