Diolch o galon i'r rhagorol Oakeley Arms a'u tîm. Bu grŵp mawr ohonom yn aros yn y gwesty a'r bythynnod er mwyn mynd i ddringo'r Wyddfa i godi arian i elusen. Roedd y llety'n wych ac o safon uchel iawn, y staff yn gyfeillgar a pharod i helpu, y lleoliad yn syfrdanol a'r bwyd yn y dafarn yn dda iawn. Byddwn yn argymell y lle'n fawr iawn fel rhywle i aros er mwyn mynd i archwilio Gogledd Cymru ac Eryri. Byddwn yn ôl!
Lle gwych, y prydau cartref yn flasus, y staff yn fwy na pharod i helpu ac roedd yr ystafell yn hyfryd, yn lân iawn a chanddi olygfeydd prydferth. Byddwn yn siŵr o ddod yn ôl!
AndreaGwasanaeth ffantastig. Daethom i gael bwyd heddiw
i ddathlu Sul y Mamau hwyr. Roedd ein plentyn 14 mis oed wedi blino braidd ac yn anniddig ac roedd y staff yn hyfryd. Rhoddodd un o'r staff greonau a phapur iddi ac roedd yn wych gyda hi. Bwyd blasus iawn hefyd. Byddwn yn ei argymell yn fawr i eraill! Diolch i chi!
RowenaStaff gwych, bwyd gwych a'r cig oen gorau gefais i erioed. Ond mae'r fwydlen i gyd yn haeddu 5 seren - byddwn yn argymell hwn i unrhyw un, mae hynny'n sicr!
AdamRydyn ni wedi ymweld nifer o weithiau yn ystod ein gwyliau gyda theulu a ffrindiau.
Mae'r fwydlen yn un 5 seren. Mae'r Woodland Chicken yn wych. Staff cyfeillgar sy'n barod iawn i helpu. Mae'r prydau i blant yn wych. Prydau o faint gwych i fy mhlentyn 8 oed sydd bob amser yn llwgu. Yn anffodus, allwn ni ddim dweud na wrth y pwdinau!!! Maent yn llawer rhy flasus. Eton mess a chacen siocled poeth!! Hyfryd. Diolch o galon i'r staff i gyd. Byddwn yn ôl cyn hir.
RiaRydw i'n aros yno am gyfnod hir mewn bwthyn am fy mod yn gweithio gerllaw.
Bythynnod gwych, adnoddau da a'r gwesty'n dda hefyd.
Cwrw da a bwyd da wedi'i weini gan y staff gwych,
Wrth fy modd!
MarkMae'r gwesty mewn lle da i ymweld â'r atyniadau niferus sydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Cefais ystafell enfawr, gyda gwely cyfforddus a chyfleusterau ymolchi da. Roedd gan y bar dri math o gwrw iawn, ac mae ganddo fathodyn Cask Marque. Roedd y bwyd o safon uchel a'r staff ifanc yn gyfeillgar ac yn talu sylw da i'r cwsmeriaid. Teithiais yno ar Reilffordd Ffestiniog, sydd werth ymweld â hi.